Cwestiynau Cyffredin

A yw'n rhad ac am ddim?

Ydy. Os ydych chi a’ch eiddo yn bodloni’r meini prawf cymhwyso, bydd yr holl osodiadau o’r dechrau i’r diwedd yn rhad ac am ddim.

Oes angen i mi fod yn derbyn budd-daliadau i fod yn gymwys?

O 30 Mehefin 2022 ymlaen, ni fydd angen i chi fod yn derbyn budd-daliadau i fod yn gymwys. Bydd rhai gofynion i’w bodloni ond ni fydd yn destun prawf modd. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau cymhwyso isod, gallwch hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun:

Budd-dal Plant

Credyd Treth Plant (CTC)

Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)

Cymhorthdal Incwm (IS)

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)

Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (PCGC)

Credyd Cynilion Credyd Pensiwn (PCSC)

Credyd Treth Gwaith (WTC)

Credyd Cynhwysol (UC)

Oes rhaid i mi dalu unrhyw beth yn ôl?

Nagoes. Mae popeth wedi’i ariannu’n llawn ac yn eiddo i chi! Nid oes dim i’w ad-dalu wedyn.

A yw'r gosodiadau'n cynnwys gwarantau?

Ydy. Mae’r gwarantau’n amrywio yn dibynnu ar y cynnyrch a osodir. Bydd gan bopeth ryw fath o warant gweithgynhyrchu neu grefftwaith ynghlwm.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn symud tŷ?

Pe baech yn symud eiddo mae’n debygol y bydd yr eiddo yn werth mwy ar ôl i’r gwaith gael ei wneud. Bydd yn cynyddu sgôr tystysgrif perfformiad ynni (EPC) yr eiddo gan ei wneud yn fwy deniadol i ddarpar brynwyr.

Gallwch werthu unrhyw bryd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd yr eiddo’n gymwys ar gyfer unrhyw grantiau pellach am y degawd nesaf. Gan y bydd yr holl osodiadau’n newydd sbon gyda gwarantau, ni ddylai fod gennych unrhyw beth i boeni amdano dros y 10 mlynedd nesaf!

A allaf weld rhai gosodiadau rydych chi wedi'u gwneud?

Yn anffodus, am resymau data, ni allwn rannu data cartrefi sydd wedi cael gosodiadau tebyg. Fodd bynnag, gallwn eich cyfeirio at ein tudalen TrustPilot sydd â dros 700 o sylwadau gan gwsmeriaid yn rhannu eu profiadau gyda ni. Rydym yn cael ein graddio fel cwmni ‘rhagorol’, dilynwch y ddolen isod.

https://uk.trustpilot.com/review/consumerenergysolutions.co.uk 

Pa fath o eiddo sy'n gymwys?

Yn nodweddiadol, gall eiddo sydd â sgôr ynni isel fod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Mae hyn yn golygu bod y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) wedi’i graddio’n ‘D’ neu’n is. Fodd bynnag, mae rhai ffactorau eraill yn cael eu hystyried. Ffoniwch ni ar 01792 721162 a byddwn yn hapus i fynd drwy’r meini prawf cymhwyso llawn gyda chi.

O ble mae'r arian ar gyfer y cynllun yn dod?

Os oes gan ddarparwr ynni dros 250,000 o gwsmeriaid mae’n ofynnol iddo godi swm bach o ‘Dreth Werdd’ ar ei gwsmeriaid sy’n cael ei hychwanegu at fil y cwsmer. Yna caiff yr arian hwn ei gadw o’r neilltu i’w ail-fuddsoddi yn economi’r DU i helpu gydag allyriadau carbon. Trwy gael mwy o insiwleiddio digonol, gwres canolog adnewyddadwy a solar, rydych chi’n lleihau effaith eich eiddo ar yr amgylchedd yn sylweddol.

Pwy sy'n cwblhau'r gwaith?

Byddwch chi’n delio â Consumer Energy Solutions o’r dechrau i’r diwedd. Byddwn yn cyflawni’r holl ddyletswyddau gweinyddol yn ogystal â’r gosodiadau, a byddwn yma i chi ar ôl gwneud y gwaith gosod gyda gwasanaeth ôl-ofal eithriadol.

Rwyf wedi cael fy arolwg, beth sy'n digwydd nesaf?

Gall amserlenni amrywio yn ôl y gwaith sy’n cael ei wneud yn eich eiddo ac sy’n unigol i bob cwsmer. Fodd bynnag, byddwch yn cael eich diweddaru bob cam o’r ffordd gyda chyswllt rheolaidd trwy gydol eich taith gyda CES fel y gallwch fod yn sicr bod popeth yn cael ei wneud i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw.

Pryd fyddaf yn derbyn fy ngwaith papur?

Gall amseroedd amrywio ond rydym yn amcangyfrif y byddwch yn derbyn yr holl waith papur perthnasol o fewn 6 wythnos i’r gwaith gosod terfynol.

Cwestiynau Cyffredin Solar

Faint o baneli alla i eu cael?

Byddwn yn asesu hyn i chi yn ystod yr arolwg. Byddwn yn gallu dweud beth yw maint y system rydym yn ei gosod wrthych ar ôl yr asesiad. Yn nodweddiadol, rydym yn gosod 6-9 panel.

Pa fath o ganiatâd sydd ei angen arnom i wneud gwaith gosod?

Mae paneli solar yn cael eu dosbarthu fel datblygiad a ganiateir, sy’n golygu y gallwn eu gosod heb unrhyw ganiatâd arbennig. Os yw’r eiddo wedi’i restru byddai angen caniatâd cynllunio ffurfiol arnom.

Beth yw watedd y paneli?

Mae’r paneli rydym yn eu cyflenwi yn 400 wat fesul panel.

Pa warantau a ddarperir gyda'r paneli?

Gwarant cynnyrch 12 mlynedd a gwarant perfformiad 25 mlynedd.

Pa warantau a gyflenwir gan y gosodwr?

Mae’r holl rannau a llafur wedi’u cynnwys mewn gwarant gosodwr 2 flynedd.

Ar ba fathau o doeau allwn ni wneud gwaith gosod?

Gallwn osod ar y rhan fwyaf o fathau o doeau, concrit, clai a llechi. Fel arfer yr unig fath o do na allwn wneud gwaith gosod arno yw teils asbestos. Mae opsiynau eraill ar gael ond byddem yn penderfynu pa fath o system y byddwn yn ei gosod ac ymhle yn ystod yr asesiad.

A allwn ni werthu'r ynni rydym yn ei gynhyrchu?

Na, o dan y grant nid oes tariffau ar gael, dim ond yr ynni rydych yn ei gynhyrchu o’r system i ostwng y biliau. Mae unrhyw ynni dros ben yn mynd yn ôl i’r grid cenedlaethol am ddim.

Ai cynllun rhentu to yw hwn?

Nage. Unwaith y bydd y system wedi’i gosod, rydych chi’n berchen ar bopeth yn swyddogol. Mae’r system gyfan yn eiddo i chi er mwyn lleihau eich biliau cystal ag y gallwch.

Cwestiynau Cyffredin Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer

Pa mor hir yw'r warant?

Gyda’n systemau gwresogi byddwch yn derbyn gwarant crefftwaith 24 mis a gwarant gwneuthurwr 7 mlynedd ar gyfer yr holl offer ASHP.

Pa mor uchel o ran sŵn yw system ASHP?

Bydd gan bwmp gwres ffynhonnell aer 40 i 60 desibel o sŵn, nad yw’n uchel iawn. Mewn gwirionedd mae 40 desibel yn cyfateb i sŵn llyfrgell dawel ac mae 60 desibel yr un lefel sŵn â sgwrs arferol.

Sut mae system ASHP yn gweithio?

Mae pympiau gwres yn defnyddio ynni amgylcheddol i gynhyrchu gwres a dŵr poeth ar gyfer eich cartref. Mae hyn yn gweithio trwy echdynnu ynni thermol (gwres) o’r aer, y ddaear neu ffynhonnell ddŵr leol, sydd wedyn yn cael ei drawsnewid gan bwmp gwres i gynhyrchu gwres a dŵr poeth ar gyfer eich cartref.

Mae pympiau gwres yn gweithio trwy gasglu gwres trwy system gasglu allanol – pibellau sy’n cynnwys hylif wedi’i lenwi ag ychwanegyn gwrth-rewi – i drosglwyddo gwres o’r tymheredd amgylchynol. Oherwydd cyfansoddiad yr hylif, bydd bob amser yn dymheredd is nag yn yr awyr agored, sy’n golygu bod y gwres yn cael ei drosglwyddo i’r hylif. Yna caiff ei drosglwyddo i’r ail gylchred, lle mae gwres yn cael ei amsugno i rewydd a’i droi’n anwedd. Unwaith y bydd yn cyrraedd y cywasgydd, caiff ei droi’n stêm, gan godi’r tymheredd i lefel y gellir ei ddefnyddio yn eich cartref.

Cwestiynau Cyffredin Inswleiddio

Sut gall inswleiddio helpu gyda fy miliau ynni?

Mewn cartref sydd wedi’i inswleiddio’n dda, mae llai o aer cynnes yn dianc o’r tŷ yn ystod y gaeaf, a llai o aer oer yn dianc yn ystod yr haf, gan leihau faint o ynni sydd ei angen ar gyfer gwresogi ac oeri.

Beth yw hyd oes defnydd inswleiddio?

Mae gan ddefnydd inswleiddio oes nodweddiadol o 20-30 mlynedd, felly mae gennych ffydd y bydd eich cartref yn cael ei ddiogelu am amser hir iawn.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i osod?

Gan ddibynnu ar faint eich eiddo a faint o waliau sydd angen eu hinswleiddio, gall gymryd rhwng 2 a 5 diwrnod i osod yr holl ddefnydd inswleiddio a phlastr yn eich cartref.

A allaf ailaddurno ar ôl gosod?

Ar ôl i’ch byrddau inswleiddio gael eu gosod yn broffesiynol, bydd ein gosodwyr yn rhoi cot llyfn o blastr dros eich waliau i gael gorffeniad braf a thaclus. Ar ôl i hyn ddigwydd, byddwch chi’n gallu addurno at eich dant.

Consumer Energy Solutions Limited
Right Menu IconDewislen